NEWYDDION A DIGWYDDIADAU
Llyfrau newydd, blogiau newydd ag newyddion gan yr awdur...
LLYFRGELL CAS-GWENT 2024
Trafod llên gwerin Cymru gyda phobl Cas-gwent, trwy garedigrwydd Chepstow Books & Gifts.
PALAS PRINT, CAERNARFON 2024
Trafod llên gwerin Cymru yn fy nhref enedigol o Gaernarfon yn fy nhafodiaith enedigol...
LLYFRGELL AC AMGUEDDFA YR WYDDGRUG 2024
Cefais amser gwych yn trafod llên gwerin Cymru yn Yr Wyddgrug, trwy garedigrwydd Siop Lyfrau'r Wyddgrug.
WATERSTONES GAERDYDD 2024: Folklore in Fact & Fiction
Roedd yn wych ymuno â'r awdur o Gernyw, Sam K Horton, am drafodaeth ar rôl llên gwerin mewn ffaith a ffuglen yn Waterstones Caerdydd.
GÅ´YL ABERAERON 2024
Wedi cael amser gwych yn adrodd straeon gwerin yn Aberaeron - roedd cael ymuno ar lwyfan gan y canwr gwerin lleol Daniel Laws yn bleser mawr.
WHERE THE FOLK: Taith yr Hydref
Edrychwch ar y digwyddiadau sydd wedi'u trefnu i hyrwyddo fy llyfr cyntaf, Where the Folk...
DIGWYDDIAD: BATTLE FOLK & FABLE FESTIVAL
Cefais amser gwych yn trafod llên gwerin Cymru a'm llyfr sydd ar ddod 'Where the Folk' yng Ngŵyl Battle Folk and Fable.
Dwi'n hapus i gyhoeddi bod rhag-archebion 'Where the Folk' ar gael nawr cyn ei ryddhau'n swyddogol ar 19 Medi eleni.
​
"As entertaining as it is informative, Where the Folk follows Russ Williams as he travels in Griff, his creaky red Fiesta, in search of places associated with Wales’s legends, folklore and urban myths. In this joyful travelogue, not only does Russ recount some of Wales’s most interesting stories; he also explores the origins behind the myths, talking to experts and storytellers to find out how and why they might have come about, and what they tell us about Wales past and present."
​
Dyma'r ddolen os oes gennych ddiddordeb.
NEWYDD!
Cefais amser gwych yn siarad am fy llyfr 'Where the Folk' yn ogystal â chwedlau Cymru yn gyffredinol neithiwr gyda Tam Lin Retold yng Ngwesty'r Kings, rhan o Å´yl Lenyddiaeth Swindon. Diolch eto i Forging Fantastical am fy ngwahodd i gymryd rhan ac i'r perfformwyr am gynnal sioe wych!
DIGWYDDIAD: GÅ´YL LLENYDDIAETH SWINDON
NEWYDDION CYFFROUS! Llyfr newydd ar ei ffordd ar gyfer gwanwyn 2024:
​
Rwy'n gyffrous i gyhoeddi fod Gwasg Prifysgol Cymru wedi cynnig cyhoeddi fy llyfr fel rhan o'u argraff fasnach newydd 'Calon', a fydd yn canolbwyntio ar ysgrifennu ffeithiol ar fywyd a diwylliant Cymru, gan "ddod â'r syniadau Cymraeg newydd mwyaf cyffrous i gynulleidfa gyffredinol". Dyddiad rhyddhau gwanwyn 2024.. Nid wyf yn cael siarad am y teitl a'r cynnwys eto, ond efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd ag ef os byddwch yn fy dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.. ond gwyliwch allen am hwn!
Dyma'r linc: The Bookseller - News - University of Wales launches trade imprint