HERMANO AWTISTICO "Di dy Frawd ddim fel Brodyr Eraill"
top of page
Search
  • Writer's pictureRuss Williams

HERMANO AWTISTICO "Di dy Frawd ddim fel Brodyr Eraill"


EISTEDDODD VIEJO GRUNON ar ei fainc arferol wrth y môr yn ei ddinas gartref o Salou, fel y gwnaeth bob noson. Croesodd ei goesau, un droed mewn sandal yn chwifio o ochr i ochr i'r tiwn yn chwarae yn ei ben. Roedd un law yn gorffwys ar ben y llall, croen yn dywyll ac fel lledr ar old blynyddoedd yn yr haul. Edrychodd allan ar y gorwel yn feddylgar, gan ddiolch i Dduw am yr holl flynyddoedd ac am beth bynnag fyddai'r mileniwm newydd yn ei-


Gorffenodd ei foment heddychol pan laniodd rhywbeth trwm ar top ei ben. Roedd y sioc yn ddigon i wneud yr wrthdrawiad deimlo'n waeth rywsut, bron yn boenus. Teimlai uffar o nerth yn gwasgu'n dynnach o amgylch ei hoff het wici ac yna'n codi'r het fynu i'r awyr, gan ddatguddio ei ben moel. Gorchuddiodd Viejo ei ben a gwaeddodd; “¿Qué haces, estúpido turista inglés?!”


Gan edrych i fyny, gwelodd fachgen ifanc, tua deg oed ella, ei wyneb wedi'i blastro'n wyn gyda floc haul. Sefyllodd yno yn dal ei het i fyny i'r awyr ac yn ei edmygu o wahanol onglau, yn mwmian yn hapus iddo'i hun.


Petrusodd Viejo. Roedd rhywbeth 'o'i le' gyda'r boi yma...


"Sori!" rhedodd tad y bachgen draw ato a rhoi ei het wedi'i gwasgu yn ôl iddo.


“¡Mira el estado de mi sombrero!” doedd Viejo ddim yn hapus gyda stad ei hoff het.


“Sori! Yh… ‘autistico’! Autistico!” ceisiodd tad y bachgen esbonio mewn acen cryf gogleddol. Yna, cymerodd ei fab gyda'i law a'i arwain i ffwrdd yn flin.


“¡Maldito inglés!”


Mae angen i chi gadw eich llygaid yn agor wrth gerdded yn ardaloedd gyhoeddus gyda brawd awtistig. Dim ond domen y mynydd iâ yw'r digwyddiad hwnnw ar ein gwyliau teuluol yn ôl yn 2000 wrth ystyried sawl gwaith y mae fy mrawd wedi sathru ar reolau a disgwyliadau confensiynol cymdeithas.


Mae o'n hoff iawn o hetiau, da chi'n gweld. Mae wedi'i hudo gan yr holl wahanol fathau, ac mae'n hoffi eu hastudio o wahanol onglau - yn agos, gan eu symud yn araf i'w weledigaeth ymylol heb symud ei lygaid, dod â nhw dros ei ben ac o amgylch ochr ei wyneb, fel ei fod yn dychmygu golygfa agoriadol o Star Wars, ond mae het wici wedi cymeryd lle'r llong ofod. Bydd yn cadw het wrth ei ochr pan fydd yn gwylio'r teledu, mae'n mynd ag un i'r gwely gydag ef, a bydd hyd yn oed yn mynd ag un gydag ef ar deithiau car hir fel 'adloniant'. Hetiau yw Bywyd.


Felly, pan welodd yr Hyfrydwch a oedd yn eistedd ar pen yr hen ddyn o Sbaen y diwrnod hwnnw, roed RHAID iddo gael golwg gwell ohono- ac iddo ef, nid yw ffiniau cymdeithasol yn bodoli yn y bôn, felly nid oes y fath beth â fod yn 'anghwrtais'. ..



Cofiaf yn glir y diwrnod y dywedodd Mam wrthyf fod fy mrawd yn awtistig. Yr oeddwn tua phump neu chwech oed, ac yr oeddwn yn eistedd yn gwylio amrywiaeth o sioeau bore Sadwrn plant o'r Nawdegau ar Fox Kids a Nickelodeon- Kenan and Kel, Pokemon, Goosebumps… yr oedd yn un o'r gwyliau haf ysgol yna roedd bron yn ddiddiwedd, gyda chwech wythnos yn teimlo fel chwech mlynedd, ac pryd roedd yr Haul allan pryd oedd o'i fo i fod!


Daeth ataf, gofynnodd imi fwmian y teledu am eiliad, ac eisteddodd i lawr wrth fy ochr. Dywedodd rywbeth fel: "Di dy frawd ddim fatha brodyr eraill'..." a rhoddodd pamffled bach i mi o'r enw rhywbeth tebyg i'r hyn a dywedodd, gyda'r is-deitl: 'Sut i fyw gyda'ch brawd neu chwaer awtistig', neu rywbeth felly.


Roedd Mam i'w weld yn betrusgar- efallai ei bod hi'n disgwyl gofid a dryswch, ond gedrai mond gofio gael diddordeb mawr yn y peth- doeddwn i ddim yn morthwylio, doedd gen i ddim cywilydd, a doeddwn i ddim yn ddifater tuag at y peth. Ar bob cyfrif, cymerais y pamffled hwnnw a darllenais y cyfan, yn eang ac yn llawn rhyfeddod... roedd fy mrawd yn "arbennig", ac roeddwn i eisiau gwybod mwy!


Dywedodd wrthyf na fyddai fy mrawd byth yn fy 'ngharu' yn yr ystyr gonfensiynol, na fyddai byth yn siarad â mi, na fyddai byth eisiau neb ei chyffwrdd na gwneud ffrindiau, ni fyddai byth yn cael bywyd cariadol, mi fydd yn casáu torfeydd a synau uchel, ac efallai y byddai'n eithriadol o ddawnus mewn un ardal.

Yr oedd y pamffled hwnnw'n anghywir am lawer o bethau. Oherwydd hyn, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu fy 'arweinlyfr' fy hun ar gyfer bywyd gyda brawd awtistig; 'BRAWD AWTISTICO' yw fy natganiad tyst - adroddiad llawn ar sut beth yw bywyd mewn gwirionedd gyda brawd neu chwaer awtistig. Fydd yna straeon sy'n cynhesu'r galon a rhai sydd yn gwneud i chi wenu, rhai trist a rhai sy'n tynnu ar eich calonnau, ond prif nod y blog hwn yw addysgu pobl am y gwir am awtistiaeth, yn ogystal â'u rhoi i orffwys ychydig o fythau amdano.


Dyma bywyd gyda brawd awitistig…



-DY DRO DI-


Diolch am ddarllen.


Os oes gennych chi, neu rhiwyn rydych chi'n ei adnabod gyda awtistiaeth yn eich bywydau mewn ryw ffurf, gadewch sylw isod a dywedwch wrthyf am eich profiadau - yr amseroedd da a'r drwg!

Ynglyn a'r postyn hon yn benodol, a oes unrhyw rieni allan yna gyda straeon am dorri'r newyddion i'w plentyn neu plant eraill? Neu a oes unrhyw un allan yna gyda brawd neu chwaer awtistig sy'n cofio cael y newyddion, a sut yr oeddent yn ymateb neu yn teimlo tuag at y peth?


Gobeithio y gwnaethoch fwynhau.

Diolch,

Russ


Recent Posts

See All
bottom of page